kywydd y breichieu
1 Twf y dyn tyviat enit
2 om tevyll eur am tyfllit
3 tal moeledd talm o alaw
4 teyrnasseidd laryeidd law
5 dyn wyl dda i dynolaeth
6 ai modd gwell no neb y maeth
7 ddwylaw mwnwgl dan ddeiloet
8 yddaeth y anghengaeth hoet
9 peth nit oedd ef gynevin
10 a chael ymavael ai min
11 gwannvardd addvwyndwf gwinvaeth
12 oeddwn gynt yddi yn gaeth
13 amheu bwyll ymae bellach
14 a dawn vu a duw n vach
15 rryw gwlm serch kyt rrygelwyf
16 Rhom od gwnn Rhwymedic wyf
17 manodliw vreych mynvdloyw
18 morvudd huan ddeurudd hoyw
19 am daliawdd bu hawdd boi hy
20 daldal ynghongl y duldy
23 [11v] da vu hirwen dwf hwyrwar
24 daly ym dwylaw am kar
21 daliat kwlm o gariat koeth
22 deu arddwrn dyn diweirddoeth
27 llathr ievawr bardd gem harddlvn
28 llei no beych oedd befrvreych bvn
29 goris klust goreuwas clot
30 gorthor ni wnaf y gwrthot
31 lliw /r/ calch yn lle eiry kylchyn
32 llyna rodd da ar wddf dyn
33 a roes bvn ag vn ai gwyr
34 am vwnwgl bardd em veinwyr
47 tec oedd welet drwy redyn
48 Tegeu dwf yn tagu dyn
39 diofn dilwfr eofn dal
40 a dv wyf a dioval
41 a deuvreych vynyn divrat
42 ym kylchyn ymedwlyn mat
43 nit serch y neb vamherchi
44 delw heul rhwng y dwylaw hi
49 meddw oeddwn mev ddioddef
50 meddiant rhiain groywfain gref
51 [12r] mynwyt vymyt heb vymar
52 mynwynn ym gwnaeth breich meinwar
53 mynwes gylchyniat mat meith
54 mynweir vuant ym vnweith
Davyt ap gwilym ai kant
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetust
2 twf
8 anghenfaeth
9 oeddwn
11 gweddeidd
14 duw yn
17 ddyn
19 be; bv
20 deildy
24 ym kylch dwylaw
22 + Dogn oedd ym hylym hwyl / dewr goler serch dirgelwyl
27 Ifor
30 gorthorch
48 + hydwyll nim rhwymodd hudawl / hoedl ir fun hudolair fawl /
a geidw ym drefn erddrym draidd / fymwytheu yn famaethaidd
44 + gwedi cael ymafael mwy / wawr euraid wi or aerwy
51 rhac